2012 Rhif  1265 (Cy. 158)

IECHYD MEDDWL, CYMRU

Rheoliadau Iechyd Meddwl (Ysbyty, Gwarcheidiaeth, Triniaeth Gymunedol a Chydsynio i Driniaeth) (Cymru) (Diwygio) 2012

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Iechyd Meddwl (Ysbyty, Gwarcheidiaeth, Triniaeth Gymunedol a Chydsynio i Driniaeth) (Cymru) 2008 (O.S. 2008/2439 (Cy.212)) (“Rheoliadau 2008”).

Diwygiodd adran 299 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 (tystysgrif cydsynio cleifion cymunedol i driniaeth) adrannau 64C a 64E o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 er mwyn amrywio'r gofyniad am dystysgrif pan fo gallu gan y claf i gydsynio i driniaeth a'i fod wedi cydsynio iddi. Mae rheoliad 2(2) yn diwygio rheoliad 40 o Reoliadau 2008 er mwyn adlewyrchu hyn ac y mae rheoliad 2(3) yn gwneud diwygiadau i ffurflenni sydd yn yr Atodlen i Reoliadau 2008 ac yn mewnosod ffurflen newydd, sef Ffurflen CO 8.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol gwneud asesiad effaith rheoleiddiol o'r costau a'r buddiannau sy'n debygol o ddeillio o gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn.

 


2012 Rhif 1265 (Cy. 158)

IECHYD MEDDWL, CYMRU

Rheoliadau Iechyd Meddwl (Ysbyty, Gwarcheidiaeth, Triniaeth Gymunedol a Chydsynio i Driniaeth) (Cymru) (Diwygio) 2012

Gwnaed                                      9 Mai 2012

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       11 Mai 2012

Yn dod i rym                          2 Mehefin 2012

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 64H(2) o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983([1]).

Enwi a chychwyn

1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Meddwl (Ysbyty, Gwarcheidiaeth, Triniaeth Gymunedol a Chydsynio i Driniaeth) (Cymru) (Diwygio) 2012 a deuant i rym ar 2 Mehefin 2012.

Diwygio Rheoliadau Iechyd Meddwl (Ysbyty, Gwarcheidiaeth, Triniaeth Gymunedol a Chydsynio i Driniaeth) (Cymru) 2008

2.(1)(1) Mae Rheoliadau Iechyd Meddwl (Ysbyty, Gwarcheidiaeth, Triniaeth Gymunedol a Chydsynio i Driniaeth) (Cymru) 2008([2]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 40 (tystysgrifau ar gyfer rhoi triniaeth)—

(a)     ym mharagraff (4) ar ôl “Ffurflen CO 7” mewnosoder “ac eithrio pan fo paragraff (5) yn gymwys”; a

(b)     ar ôl paragraff (4) mewnosoder—

(5) Pan fo awdurdod i roi triniaeth i glaf yn rhinwedd adrannau 64C(2)(a) neu 64E(6)(a), rhaid i’r dystysgrif sy’n ofynnol at ddibenion adrannau 64B(2)(b) a 64E(2)(b) fod ar y ffurf a osodir yn Ffurflen CO 8.”

(3) Yn Atodlen 1 (ffurflenni)—

(a)     yn Ffurflen HO 15 (Deddf Iechyd Meddwl  1983 adran 20 – adnewyddu’r awdurdod i roi dan gadwad)—

                           (i)    yn Rhan 2 ar ôl  “from the Responsible Clinician” mewnosoder “. This Part to be completed following consultation with the Responsible Clinician”, a

                         (ii)    yn Rhan 3 ar ôl “the Responsible Clinician” mewnosoder “following the completion of Part 2”;

(b)     yn Ffurflen CP 1 (Deddf Iechyd Meddwl 1983 adran 17A – gorchymyn triniaeth gymunedol), Rhan 1 amod 2—

                           (i)    ar ôl “Part 4A” mewnosoder “that falls within section 64C(4)”,  a

                         (ii)    ar ôl “in the patient’s case” mewnosoder “(SOAD Part 4A Certificate)”;

(c)     yn Ffurflen CP 5 (Deddf Iechyd Meddwl 1983 adran 17E – hysbysiad am alw’n ôl i’r ysbyty),  Rhan 2 paragraff (b), ar ôl “enabling a” mewnosoder “SOAD”;

(d)     yn Ffurflen TC 8 (Deddf Iechyd Meddwl 1983 Rhan 6 – trosglwyddo claf sy’n ddarostyngedig i orfodaeth yn y gymuned) Rhan 1 amod 4,  yn lle “Part 4A of the Act the patient’s case” rhodder “Part 4A that falls within section 64C(4) of the Act in the patient’s case (SOAD Part 4A Certificate)”;

(e)     ym mhennawd Ffurflen CO 7 yn lle “(Part 4A Certificate)” rhodder “(SOAD Part 4A Certificate)”; ac

(f)      ar ôl Ffurflen CO 7 mewnosoder—

Form CO 8 Mental Health Act 1983 Part 4A – certificate of consent to treatment for community patient (Approved Clinician Part 4A certificate)

 

Regulation 40(5)

I [full name and address] the approved clinician in charge of the treatment described below certify that [full name and address of patient]

(a)   is capable of understanding the nature, purpose and likely effects of [give description of treatment or plan of treatment; indicate clearly if the certificate is to apply to any or all of the treatment for a specified period]

AND

(b)  has consented to that treatment.

 

Signed [signature]

Date [date]”.

 

 

Lesley Griffiths

 

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

 

9 Mai 2012



([1])           1983 p.20. Mewnosodwyd adran 64H gan adran 35(1) o Ddeddf Iechyd Meddwl 2007 (2007 p.12) ac fe'i diwygiwyd gan adran 299 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 (2012 p.7).

([2])           O.S. 2008/2439 (Cy.212).